Dan Ddeddf Plant 1989, mae ar Gyngor Dinas Caerdydd ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu llesiant plant sy’n cael eu maethu’n breifat.
Rhaid i ni sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu bodloni. Golyga hyn eu bod yn:
- ddiogel ac yn derbyn gofal o safon
- iach
- derbyn addysg briodol
- cael eu hannog i gyflawni eu potensial
- cadw mewn cysylltiad â’r bobl sy’n bwysig iddynt
- byw gyda rhywun sy’n eu helpu i werthfawrogi eu diwylliant a’u hunaniaeth
- cael eu cefnogi’n briodol wrth iddynt ddod yn annibynnol.
Er gwaethaf yr uchod, mae llawer o drefniadau maethu preifat nad oes unrhyw un yn gwybod amdanynt, sy’n gwneud plant yn agored i gamdriniaeth ac esgeulustod.
Yng Nghaerdydd, bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal maeth preifat weithiwr cymdeithasol penodol sy’n gyfrifol am sicrhau bod ei lesiant yn cael ei ddiogelu a’i hybu i safon foddhaol. Mae ar y gweithiwr cymdeithasol ddyletswydd statudol i ymweld â’r plentyn o leiaf pob chwe wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf y trefniant ac o leiaf pob 12 wythnos ar ôl hynny.