Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth, mae’r Gwasanaethau Maethu wedi cydnabod a dathlu gofalwyr maeth sydd wedi rhoi dros ugain mlynedd o ofal i blant sy’n agored i niwed yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Rheolwr Tîm, Debbie Martin-Jones Roedd y Cyngor yn awyddus i fanteisio ar y cyfle yn ystod Penwythnos Maethu, i ddathlu ymrwymiad mwy na 20 o’n gofalwyr maeth sydd wedi rhoi gofal o safon uchel i gannoedd o blant am fwy nag ugain mlynedd – rhai ohonynt am gyn hired â 36 mlynedd. Rydym wedi ymrwymo i roi’r gofal gorau posib i’n plant sy’n derbyn gofal ac felly mae’n bwysig i ni nodi cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad gwych a wneir gan ein gofalwyr.’
Dywedodd Gina Cooper, gofalwr maeth gafodd ei chydnabod am ei gwasanaeth maith, ‘Rwy wedi bod yn ofalwr maeth am dros bum mlynedd ar hugain ac er iddo fod yn heriol, mae wedi bod yr yrfa fwyaf cyfoethog y gallwn fod wedi ei dewis.’ Rwy wedi gallu dewis yr hyn sydd yn iawn i mi a fy nheulu dros y blynyddoedd.’
Mae llefydd gwag gennym ar gyfer gofalwyr maeth all weithio law yn llaw â’n tîm o weithwyr proffesiynol yn rhoi gofal, cariad, cynhesrwydd a phrofiad cartref cadarnhaol i blant.
Os oes diddordeb mewn maethu gennych, neu eich bod yn adnabod unrhyw ofalwyr maeth cymeradwy sydd â diddordeb mewn trosglwyddo atom ni neu os oes gennych ffrindiau yn eich rhwydwaith sydd am gael ychydig o wybodaeth am faethu, cysylltwch â ni
Comments are closed.